Seasearch Cymru: Gwirfoddolwyr yn Diogelu Moroedd Cymru
Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i’n gwyddonwyr ddinasyddion a’n gwirfoddolwyr fynd gam ymhellach i ddiogelu ecosystemau morol unigryw ac amrywiol Cymru.
Diolch i’r cyllid hwn, mae gwirfoddolwyr yn casglu data hollbwysig o’r rhanbarthau penodol hyn gyda’r nod o gofnodi rhywogaethau a chynefinoedd sy’n hollbwysig i fioamrywiaeth Cymru, gan sicrhau bod yr ymdrechion cadwraeth yn targedu’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf. Mae tîm Seasearch Cymru hefyd yn gweithio gyda’r gymuned i helpu i greu cysylltiad â’r cefnfor. Gyda digwyddiadau fel sgyrsiau addysgol, hyfforddiant ar adnabod bywyd morol, saffari glan y môr a glanhau traethau, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r cefnfor yn llwyddo i ddod â phobl at ei gilydd a nod y digwyddiadau hyn yw gwneud i bobl deimlo’n llai ynysig ac unig o fewn y gymuned, gwella llesiant drwy gysylltu â natur, a dod â phobl o’r un anian ynghyd i wneud pethau anhygoel i ddiogelu eu cynefinoedd morol lleol.
Cipolwg ar sesiwn ddeifio ddiweddar Seasearch
Yn y fideo isod, mae Cydlynydd Seasearch Cymru, Matt, yn disgrifio ei sesiwn ddeifio ar hyd arfordir trawiadol Penrhyn Gŵyr. Mae’r ardal hon yn enwog am ei riff creigiog, broc môr a bywyd morol ffyniannus. Nid dim ond y golygfeydd y mae deifwyr a snorcelwyr Seasearch yn eu mwynhau—maen nhw hefyd yn casglu data pwysig sy’n cyfrannu at wella’r ddealltwriaeth o sut mae’r ecosystemau hyn yn newid.
Dyma un o’r llu o ddigwyddiadau y bu modd ei gynnal, diolch i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy’n cefnogi gwaith ymchwil hanfodol ac yn helpu’r Gymdeithas Cadwraeth Forol i ymestyn ei hyfforddiant Seasearch, arolygon a digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ledled Cymru, yn arbennig yn y rhanbarthau sy’n agos at ein pedwar safle tirlenwi dan sylw.
Pam mae Seasearch yn bwysig i ddyfodol Cymru
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd ein cefnfor ac iechyd ein cymunedau a’n heconomi. Mae dyfroedd arfordirol Cymru yn gartref i gynefinoedd a rhywogaethau sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y broses o gefnogi bioamrywiaeth a chynnal diwydiannau fel pysgota a thwristiaeth.
Mae Seasearch Cymru yn rhan ganolog o’r ymdrechion hyn. Drwy gynnwys cymunedau lleol drwy gyfrwng gwyddoniaeth ac addysg ymarferol, mae pobl yn cael eu grymuso i gymryd camau i ddiogelu eu hamgylcheddau morol lleol. Drwy gynnal arolygon, mae tîm Cymdeithas Cadwraeth Forol Seasearch yn casglu data hanfodol am rywogaethau fel y môr-wyntyll binc, y llyngyren ddiliau, a fforest môr-wiail, yn ogystal â rhywogaethau goresgynnol estron sy’n fygythiad i gydbwysedd ein hecosystemau.
Diolch i’r cyllid newydd hwn, mae Seasearch Cymru wedi gallu cynyddu nifer yr arolygon a gynhelir mewn ardaloedd heb lawer o ddata, gan sicrhau nad oes unrhyw gornel o amgylchedd morol Cymru heb ei monitro. Bydd y data’n cael eu rhannu ag awdurdodau lleol, swyddogion polisi a grwpiau cadwraeth i’w helpu i wneud penderfyniadau ar warchod bywyd morol a datblygiad cynaliadwy, gan gyfrannu at y nod o warchod 30% o’n moroedd erbyn 2030.
Cymerwch ran!
Os hoffech ddysgu mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â’r Seasearch heddiw. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i ddiogelu’r bywyd morol anhygoel y mae Cymru yn gartref iddo.
Diolch i’n cyllidwyr
Hoffai’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ddiolch yn fawr i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a CGGC am eu cymorth parhaus. Heb y cyllid hwn, ni fyddai gweithgareddau estynedig yr elusen Seasearch a’i waith ymgysylltu ledled Cymru–yn arbennig o amgylch y pedwar safle tirlenwi–yn bosibl. Drwy gydweithio, gallwn warchod ecosystemau morol Cymru am genedlaethau i ddod.
Gadewch i ni warchod yr hyn rydym yn ei garu–ymunwch â Seasearch Cymru heddiw!