Link

Link

Link

wales

cymraeg

Croes i dudalennau WOWGower-A-Conway.gif

Mae gan y mor oddiar arfordir Cymry amrywiaeth mawr o fywyd mor gwyllt, o anemone prydferth a ser mor (sydd yn gyfarywdd in unrhywun sydd wedi chwilio drwy bwll ar y traeth) i’r heulforgi anferth a sawl math o forfil a dolffin – ymysg lawer eraill. Yn anffodus mae nifer o’r anifieilaid a’u cynefin o dan fygythiad. Mae gan MCS swyddog Cymreig nawr, i hybu bywyd mor Cymru ac ymgyrchu dros amddiffyn gwell o’n bywyd gwyllt a’n cynefin. Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith holl-bwysig yn y tudalennau hyn..

Bywyd Mor Cymru

Mae gan Gymru 750 milltir o arfordir, yn cynnwys baeau, treathau, clogwyni a phorthladdoedd. Hefyd mae gan Gymru yr unig Barc Cenedlaethol ar yr afrordir. Mae gan lawer o’r arfordir statws “Arfordir Treftadaeth” ac “Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol” (AHNE) ac mae sawl safle “Ardal Cadwraeth Arbennig" (ACA).

Mae’r moroedd o amgylch Cymru yn gartref i 70% o rywogaethau “Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth” (CGB) – anifieiliaid fel yr heulforgi; crwban mor lledregefn; dolffin cyffredin; a llamhidydd yr harbwr; cragen wyntyll binc; cragen wyntyll; wystrys a’r morgath gyffredin ymhlith nifer eraill. Mae gan Gymru 78% o’r cynefinau BAP, o dywod i gerrig man, gwelyau gwellt y gamlas, riffiau Sabellaria alveolata (llyngyr diliau) a gwastadeddau mwd.

Bygythiadau i Fywyd Mor Cymru

Mae bywyd mor Cymru o dan fygythiad gan lygredd, datblygiadau, pysgota a hyd yn oed gan weithgareddau hamdden. Mae lefel sbwriel yng Nghymru gyda’r gwaethaf ym Mhrydain (Adopt-a-Beach) , ac mae carffosiaeth (Good Beach Guide) a’i effeithiau yn dal yn gyffredin yn nyfroedd Cymru. Mae’r arfordir gwerthfawr o dan fygythiad gan ddatblygiadau ar yr arfordir e.e. awgrymiadau am blatfform olew ym mae Aberteifi ac am forglawdd ar draws aber afon Hafren.

Cysylltu â clic yma Swydoddog Cymru

Rydw i’n ddiolchgar iawn i Gethin Rees am y cyfiethiad